Mae’r system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr wedi bodoli ers cryn amser ac mae parch mawr tuag ati ond mae hefyd yn gymhleth – yn enwedig os nad ydych wedi dod ar ei thraws o’r blaen.
Gall Ffocws Dioddefwyr De Cymru eich helpu i ddeall mwy am yr asiantaethau y gallech ddod ar eu traws ar ôl i chi roi gwybod am drosedd, beth fydd yn digwydd yn ystod yr ymchwiliad a beth fydd yn digwydd os bydd angen i chi fynd i’r llys. Gallwn hefyd eich hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Tystion a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth a all roi cyngor a chefnogaeth i chi os bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am y Broses Cyfiawnder Troseddol ac am fynd i’r llys neu cysylltwch â ni i siarad ag un o’n swyddogion hyfforddedig.