Fel rhiant neu warcheidwad, efallai y byddwch yn teimlo’n ddig, yn bryderus, yn ofidus neu’n ofnus os byddwch yn cael gwybod bod eich plentyn wedi profi trais neu wedi bod yn dyst i drais. Efallai na fyddwch wedi sylweddoli bod rhywbeth wedi digwydd, a gall cael gwybod bod trosedd wedi effeithio ar eich plentyn fod yn ddychrynllyd ac yn anodd ei ddeall.
Yn union fel y bobl ifanc, mae’n bwysig i’r rhieni allu rhannu eu pryderon a’u hofnau hefyd. Gall Ffocws Dioddefwyr De Cymru roi cymorth i chi fel rhiant neu warcheidwad os oes Trosedd wedi effeithio ar eich plentyn. Gall ein Timau Ffocws Dioddefwyr lleol weithio gyda chi a’ch teulu ehangach, rhoi cymorth i chi os bydd eich plentyn yn penderfynu ei fod am roi gwybod i’r heddlu am y drosedd a’ch atgyfeirio at sefydliadau eraill a all eich helpu.
Cofiwch, mae’n bwysig ar gyfer diogelwch eich plentyn eich bod yn ei annog i siarad ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo am y drosedd, ystyried p’un a ddylid rhoi gwybod i’r heddlu, a chymryd camau er mwyn sicrhau na fydd yn profi’r drosedd eto.