Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, wedi’u lleoli yn eich ardal chi, a gallant gynnig cymorth a chefnogaeth ar unwaith, ac yn yr hirdymor, er mwyn eich galluogi i ymdopi ag effeithiau trosedd a dod drostynt. Rydym yn deall bod profiad pawb yn wahanol. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau, efallai y bydd gennych gwestiynau heb eu hateb neu efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi drysu ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd nesaf.
Dyma rai o’r ffyrdd y gallwn eich helpu: