Beth yw Cam-drin Domestig?
Mae Cam-drin Domestig yn unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ymddygiad sy’n rheoli eraill, ymddygiad cymhellol neu ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng unigolion 16 oed a throsodd, sy’n aelodau o’r teulu neu sy’n bartneriaid agos neu a fu’n bartneriaid agos, waeth beth fo’u rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Gall trais a cham-drin domestig ddigwydd ym mhob ystod oedran, cefndir ethnig a lefel economaidd.
Os ydych yn cael eich cam-drin, neu wedi gwneud yn y gorffennol, cofiwch nad chi sydd ar fai a bod pobl a sefydliadau a all eich helpu.
Mae sawl ffurf ar gam-drin domestig a gall gynnwys y canlynol:
Gellir defnyddio cam-drin emosiynol fel ffordd o’ch rheoli. Gall yr ymddygiad hwn ddechrau’n fach iawn, a gall arwain at ymddygiad bob dydd sy’n anodd ei atal – mae hyn yn dal yn gam-drin.
Mae sawl ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn gam-drin emosiynol ond gall rhai o’r rhain gynnwys:
- Eich gwahanu oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau, gan wneud i chi deimlo’n euog am dreulio amser gyda nhw neu am wylltio
- Eich difrïo, eich bychanu dro ar ôl tro a dweud wrthych eich bod yn ddiwerth
- Bygwth rhoi sïon ar led amdanoch
- Dweud pethau fel ‘Petaet ti’n fy ngharu i, byddet ti’n….’
- Bygwth anafu ei hun neu ladd ei hun os byddwch chi’n gwneud rhywbeth, neu’n gadael
- Mynnu gwybod ble rydych chi drwy’r amser
- Gwrthod gadael i chi gael ffôn, monitro eich ffôn neu negeseuon e-bost a mynd yn ymosodol pan na fyddwch yn ymateb
- Gwneud i chi deimlo’n ddryslyd, fel cuddio eich eiddo personol neu gytuno i wneud rhywbeth, yna gwadu hynny
- Eich rheoli, e.e. dweud wrthych beth i’w wisgo, sut i wneud eich gwallt neu beth i’w ddweud:
Mae Cam-drin Ariannol yn fath o gam-drin domestig. Gall eich partner, cyn bartner neu aelod o’r teulu eich rhwystro rhag cael rheolaeth dros eich arian fel ffordd o gael pŵer drosoch. Gall fod yn anodd atal cam-drin ariannol, oherwydd gall ambell ymddygiad ddod i’r amlwg dros amser neu deimlo’n naturiol mewn cydberthynas agos. Os ydych yn teimlo nad oes gennych reolaeth dros eich arian, neu eich bod ar eich pen eich hun gan na allwch gael gafael ar eich arian, gallech fod yn cael eich cam-drin yn ariannol. Ymysg yr arwyddion eraill mae:
- Eich rhwystro rhag cael swydd
- Eich rhwystro rhag cadw swydd, fel eich gwneud yn hwyr i’r gwaith
- Gwneud i chi gyflwyno eich cyflog neu fudd-daliadau
- Gwneud i chi dalu eich cyflog neu fudd-daliadau yn uniongyrchol i mewn i gyfrif banc a ‘rennir’ neu gyfrif banc yr unigolyn arall
- Gofyn i chi am arian, dwyn, cymryd neu fynnu cael arian
- Cadw golwg ar eich cyfrif am arian rydych wedi’i wario a gofyn i chi ddangos derbynebau
- Peidio â gadael i chi wario arian arnoch eich hun neu ar eich plant
- Rheoli eich cyfrif banc
- Mynd i ddyledion yn eich enw
- Eich gorfodi i agor benthyciadau yn eich enw
- Eich gorfodi i gael hawliadau budd-daliadau ar y cyd, fel hawliadau budd-daliadau tai ar y cyd
Gall cam-drin corfforol gynnwys cam-drin corfforol, ond gall rhywun fygwth eich anafu chi y gellir ei ddefnyddio i’ch rheoli. Ymysg yr enghreifftiau posibl o gam-drin corfforol mae:
- Arwahanu a charcharu, fel eich cloi yn eich cartref
- Taro, pwnio, cicio, slapio, gwthio
- Dal rhywun i lawr
- Gorfodi rhywun fwyta a/neu wrthod rhoi bwyd
- Tagu neu fygu
- Bygwth eich anafu chi neu’r sawl sy’n agos atoch
- Llosgi
- Poeri atoch
- Taflu eitemau neu wrthrychau atoch
- Defnyddio arfau i’ch anafu
Gall cam-drin rhywiol mewn cydberthynas agos gynnwys:
- Pwysau i gael rhyw neu gyflawni ymddygiad rhywiol nad ydych yn gyfforddus ag ef
- Rheoli beth rydych yn ei wisgo
- Derbyn delweddau rhywiol dros e-bost, y cyfryngau cymdeithasol neu’r ffôn (‘secstio‘) neu ofyn i chi anfon delweddau rhywiol yn erbyn eich ewyllys
- Cael eich gorfodi i wylio pobl eraill yn cael rhyw
- Cael eich gorfodi i wylio neu greu pornograffi
Trais ar sail anrhydedd yw cam-drin neu drais a all fod wedi’i gyflawni er mwyn diogelu neu amddiffyn anrhydedd y teulu neu’r gymuned. Yn aml, mae’n gysylltiedig ag aelodau o’r teulu neu gydnabod sy’n credu ar gam bod rhywun wedi dwyn gwarth ar eu teulu neu’r gymuned drwy wneud rhywbeth nad yw’n cyd-fynd â chredoau traddodiadol eu diwylliant. Ceir rhagor o wybodaeth am Drais ar sail Anrhydedd a ble i gael help yma.
Isod, ceir rhai o’r pethau y gallech glywed amdanynt os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael help o ganlyniad i Gam-drin Domestig:
Mae IDVA yn cynorthwyo unrhyw un sy’n profi Cam-drin Domestig a gall weithredu ar ei ran. Gall IDVA roi cymorth mewn sawl ffordd, fel helpu â thai neu ddyledion yn ogystal â helpu i gadw’r unigolyn a’i deulu yn ddiogel. Bydd IDVA yn rhoi cyngor arbenigol o ran cam-drin domestig a bydd yn gweithio gyda’r dioddefwr er mwyn llunio cynllun diogelwch a chymorth. Bydd IDVA yn cyfathrebu â’r holl asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r dioddefwr, fel yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron er mwyn sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu.
Mae lloches yn cynnig lle diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant pan na fyddant o’r farn ei bod yn ddiogel iddynt aros yn eu cartref eu hunain. Mae llochesi yn cynnig llety, ond gall staff hyfforddedig hefyd roi cymorth i’r dioddefwr ac unrhyw blant tra byddant yn aros yn y lloches. Mae ardaloedd lleol yn cynnig mathau gwahanol o lochesi, ond yn bennaf, bydd lloches yn cynnig ystafell wely ar gyfer pob dioddefwr ac unrhyw blant a chyfleusterau cyhoeddus a rennir fel ystafell ymolchi a chegin. Gall dioddefwyr aros am hyd at 12 mis mewn lloches, ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd gweithiwr cymorth yn helpu i ddod o hyd i lety parhaol newydd i’r dioddefwr mewn lleoliad diogel.
Yr heddlu sy’n gwneud cais am DVPO a chaiff ei weithredu gan y Llys Ynadon. Gellir rhoi DVPO pan na fydd digon o dystiolaeth i gyhuddo rhywun o gam-drin domestig ond ei bod yn amlwg bod angen diogelwch ar y dioddefwr. Gall y DVPO atal y cyflawnwr rhag dychwelyd i gartref y dioddefwr a rhag cysylltu â’r dioddefwr am 28 diwrnod. Bydd y 28 diwrnod yn rhoi amser i’r dioddefwr ystyried ei opsiynau gyda help gan asiantaethau cefnogol.
Os hoffech wneud cais am DVPO, gallwch ffonio 101 i gael rhagor o wybodaeth neu i siarad â’ch Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol.
Mae Clare’s Law yn gynllun datgelu sydd â’r nod o helpu i warchod pobl rhag cam-drin domestig. Mae’n eich galluogi i gysylltu â’ch Heddlu lleol er mwyn gwneud ymholiadau ynghylch eich partner os ydych yn poeni y gall fod wedi bod yn dreisgar yn y gorffennol. Os yw gwiriadau’r heddlu’n dangos fod gan eich partner hanes o ymddygiad treisgar, neu fod gwybodaeth arall sy’n awgrymu eich bod mewn perygl o bosibl oherwydd eich partner, bydd yr heddlu’n ystyried rhannu’r wybodaeth gyda chi. Nod rhannu’r wybodaeth hon yw eich helpu i wneud penderfyniad mwy hyddysg o ran a ydych am barhau â pherthynas, ac mae’n cynnig cymorth a chefnogaeth bellach i chi pan fyddwch yn gwneud y dewis hwnnw.
Gallwch wneud cais am eich partner os ydych yn poeni y gall eich anafu neu os ydych yn drydydd parti sy’n poeni, fel rhiant neu ffrind. Gallwch ffonio 101 i wneud cais ar gyfer cynllun datgelu Clare’s Law, neu gallwch fynd i’ch gorsaf heddlu agosaf.
Sut i gael help
Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.
Gallwch gael help arbenigol drwy swyddog Ffocws Dioddefwyr neu gallwch gysylltu ag un o’r gwasanaethau a restrir isod yn uniongyrchol. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw
- Llinell Gymorth 24 Awr Byw Heb Ofn
Os yw eich partner, eich cyn bartner neu aelod o’ch teulu yn eich cam-drin a bod angen cyngor arnoch, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth 24 Awr Byd Heb Ofn ar 0808 8010 800 E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
- BAWSO http://www.bawso.org.uk/
Mae Bawso yn Ddarparwr Cymorth Cymru gyfan, sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig y mae cam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin, yn cynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Masnachu Pobl a Phuteindra. Mae Bawso yn rhoi cymorth, cyngor a gwybodaeth o’u swyddfeydd yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful ac Abertawe.
Cysylltwch â’r llinell gymorth 24 awr: 08007318147 neu cysylltwch â’u Swyddfeydd rhanbarthol:
Caerdydd 029 20644 633 (Tŷ Clarence, Clarence Road, Butetown, Caerdydd CF10 5FB)
Merthyr Tudful 01685375394 (Teulu MAC47 – 48 Gorllewin Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UN)
Abertawe 01792 642 003 (63 Mansel Street, Abertawe SA1 5TN)
- Prosiect Dyn –www.saferwales.com
Mae prosiect Dyn Diogelach Cymru yn rhoi cymorth i ddynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol sy’n profi cam-drin domestig gan bartner.
Ffôn: 0808 801 0321 E-bost: dyn@saferwales.com
- Rainbow Bridge – http://www.reporthate.victimsupport.org.uk/rainbow-bridge/
Gwasanaeth a gaiff ei redeg gan Victim Support yw Rainbow Bridge sy’n rhoi cymorth penodol i ddioddefwyr cam-drin domestig sy’n nodi eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol
- Cymorth i Fenywod Abertawe – http://swanseawomensaid.com/ – (01792) 644683
- Cymorth i Fenywod Port Talbot ac Afan–http://www.ptwa.org.uk/contact – (01639) 894 864
- Cymorth i Fenywod Caerdydd– http://www.cardiffwomensaid.org.uk – (02920) 460 566
- Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf –http://www.wa-rct.org.uk/ – (01443) 400 791
- Calan DVS – http://www.calandvs.org.uk/contact-us – (01656) 766139
- Hwb Cam-drin Domestig Castell-nedd Port Talbot– http://www.calandvs.org.uk/we-can-help/one-stop-shop – (01639) 622 350
- Merthyr Tudful Mwy Diogel – http://www.smt.org.uk/contact-us/– (01685) 353 999
- Atal Y Fro – http://www.atalyfro.org– (01446) 744755