Gallwn roi help a chefnogaeth i unrhyw un y mae troseddau wedi effeithio arnynt yn Ne Cymru. Mae ein gwasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael p’un a roddwyd gwybod am y drosedd ai peidio, a waeth pryd y digwyddodd. P’un a ydych wedi cael eich effeithio yn uniongyrchol gan drosedd, yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio, neu os ydych wedi bod yn dyst i rywbeth, rydym yma i chi.
Os oes angen ein help arnoch, os ydych am ddweud rhywbeth wrthym am ein gwasanaeth neu os ydych am gael gwybod mwy am wirfoddoli, defnyddiwch y dolenni isod neu rhowch alwad i ni.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gallwn eich helpu, cysylltwch â ni ar:
0300 303 0161
Mae ein Timau ar gael i siarad â chi:
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 8pm
Mewn argyfwng ffoniwch 999
Ein nod yw rhoi’r help gorau posibl i bawb. Mae’n bwysig ein bod yn deall os bydd rhywbeth wedi mynd o’i le fel y gallwn ei unioni. Os oes gennych syniad a fyddai’n gwella ein gwasanaeth yn eich barn chi, defnyddiwch y ffurflen ar-lein ‘Ein helpu i wella ein gwasanaeth‘ i roi gwybod i ni. Fodd bynnag, os ydych o’r farn y dylai eich cwyn gael ei thrin yn ffurfiol, ysgrifennwch atom yn ein Prif Swyddfa:
Ffocws Dioddefwyr De Cymru
Gorsaf Heddlu Tredelerch
713 Heol Casnewydd
Tredelerch
Caerdydd
CF3 4FD
Rhagor o wybodaeth am Weithdrefn gwyno Cymorth i Ddioddefwyr