Leave Site

Y Tîm

Mae ein Timau Ffocws Dioddefwyr yn cynnwys staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig. Mae ganddynt wybodaeth am eich ardal leol a chysylltiadau â sawl sefydliad arall.

Gall ein tîm lleol gynnig help a chefnogaeth hirdymor er mwyn eich galluogi i ymdopi ag effeithiau trosedd a dod drostynt.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall sut y gallwn eich helpu orau a byddwn yno i chi gyhyd ag y bydd ein hangen arnoch.

 

Ein Gwirfoddolwyr

Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein Timau Ffocws Dioddefwyr, gan roi cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl y mae troseddau wedi effeithio arnynt.

Bob dydd, mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser er mwyn helpu rhywun i droi cefn ar droseddau. Mae eu cymorth yn helpu pobl i deimlo’n gryfach, eu bod yn cael eu deall ac yn gallu symud ymlaen â’u bywydau.

Mae angen gwirfoddolwyr newydd arnom i ymuno â’n timau lleol bob amser felly cysylltwch os ydych o’r farn bod gennych yr amser i weithio gyda ni.

Ffoniwch ni nawr i gael help a chefnogaeth 0300 30 30 161