Beth yw hyn?

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

Anffurfio organau cenhedlu benywod, a elwir hefyd yn torri organau cenhedlu benywod ac yn enwaedu benywod, yn golygu tynnu organau cenhedlu benywod neu rannau ohonynt, fel rhan o ddefod. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin merched yn emosiynol yn fater Amddiffyn Plant.

Priodas dan Orfod

Priodas dan orfod yw pan na fydd un neu’r ddau yn cydsynio i’r briodas neu na all gydsynio am resymau bod yn agored i niwed, a defnyddir pwysau neu gamdriniaeth. Caiff ei gydnabod yn y DU fel math o drais yn erbyn menywod a dynion, cam-drin domestig/cam-drin plant a chamddefnyddio hawliau dynol yn ddifrifol.

Gall y ‘grym’ fod yn fygythiad corfforol neu’n drais gwirioneddol, cam-drin emosiynol neu garcharu nes i’r unigolyn ‘gytuno’ i’r briodas neu gymryd rhan yn y seremoni briodasol.

Trais ar sail Anrhydedd

Trais ar sail anrhydedd yw cam-drin neu drais sydd neu a all fod wedi’i gyflawni er mwyn diogelu neu amddiffyn anrhydedd y teulu neu’r gymuned. Yn aml, mae’n gysylltiedig ag aelodau o’r teulu neu gydnabod sy’n credu ar gam bod rhywun wedi dwyn gwarth ar eu teulu neu’r gymuned drwy wneud rhywbeth nad yw’n cyd-fynd â chredoau traddodiadol eu diwylliant. Er enghraifft, gall trais ar sail anrhydedd fod wedi’i gyflawni yn erbyn pobl sydd:

  • yn sefydlu perthynas â rhywun o ddiwylliant neu grefydd wahanol
  • am ddod allan o briodas a drefnwyd
  • am ddod allan o briodas dan orfod
  • yn gwisgo dillad neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y gellir ystyried nad ydynt yn draddodiadol mewn diwylliant penodol

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr roi cymorth i chi gael help arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

BAWSO – http://www.bawso.org.uk

Mae Bawso yn ddarparwr cymorth Cymru gyfan, sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig y mae cam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin, yn cynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Masnachu Pobl a Phuteindra. Ar hyn o bryd, mae Bawso yn rhedeg prosiectau sy’n cynorthwyo mwy na 5,000 o bobl blwyddyn yng Nghymru drwy ddarparu llochesi pwrpasol, tai diogel a Rhaglen Allgymorth ac Adsefydlu a Rhaglen Cymorth fel y bo’r Angen. Mae Bawso yn rhoi cymorth, cyngor a gwybodaeth o’u swyddfeydd yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful ac Abertawe.

Cysylltwch â’r llinell gymorth 24 awr ar: 0800 7318147 neu cysylltwch â’u swyddfeydd rhanbarthol:

  • Caerdydd 029 20644 633 (Tŷ Clarence, Clarence Road, Butetown, Caerdydd CF10 5FB)
  • Merthyr 01685 375 394 (Teulu MAC47 – 48 Gorllewn Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UN)
  • Abertawe 01792 642 003 (63 Mansel Street Abertawe SA1 5TN)

NSPCC/ Llinell Gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Genedlaethol

Gallwch gysylltu â llinell gymorth yr NSPCC drwy e-bostio fgmhelp@nspcc.org.uk neu drwy ffonio am ddim ar 0800 028 3550

Uned Priodas dan Orfod http://www.forcedmarriage.net/ineedhelp.html

Mae’r Uned Priodas dan Orfod yn cefnogi dioddefwyr priodas dan orfod yn y DU a thramor.

Ffôn (0) 20 7008 0151 E-bost: fmu@fco.gov.uk