Preifatrwydd a diogelu data
Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd pobl sy’n ymweld â’r wefan hon. Darllenwch ein datganiad preifatrwydd a diogelu data
Gwybodaeth rydym yn ei chasglu
Os byddwch yn ymweld â’r wefan hon, byddwn yn casglu’r rhif adnabod unigol sydd wedi’i benodi i’ch cyfrifiadur pan fyddwch yn cysylltu â’r rhyngrwyd. Gelwir hyn yn ‘gyfeiriad IP’ a chaiff ei logio’n awtomatig gan ein gweinydd gwe a’i ddefnyddio i hwyluso eich mynediad i’r wefan. Fodd bynnag, nid ydym yn defnyddio cyfeiriadau IP i adnabod ymwelwyr â’r wefan. Rydym yn casglu’r data hyn yn syml er mwyn monitro tueddiadau cyffredinol yn y traffig i’n safle er mwyn ein helpu i wella’r safle a chynnig profiad gwe gwell.
Pan fyddwch yn anfon ymholiad atom dros e-bost, neu drwy lenwi ffurflen ar y wefan, efallai y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch i ni. Gallai hyn gynnwys: eich enw, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost, a’ch rhif ffôn.
Ar gyfer beth rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon?
Bydd Ffocws Dioddefwyr De Cymru ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a gesglir drwy’r wefan hon er mwyn ymateb i’ch ymholiadau, ac, yn achlysurol, at ddiben mesur tueddiadau yn yr ymwelwyr â’n safle.
Cyfrinachedd a datgeliad
Nid yw Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon fel arfer heblaw i ddarparwyr gwasanaeth sy’n gweithredu ar ei ran o dan yr amodau cyfrinachedd mwyaf llym a hynny gyda’ch cydsyniad.
Fodd bynnag, mawn amgylchiadau eithriadol, byddwn yn rhoi’r wybodaeth bersonol a roddwch i ni i asiantaethau eraill heb eich cydsyniad – fel awdurdodau lleol neu’r heddlu – i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol penodol. Mae hyn am un o ddau reswm fel arfer – naill ai i atal niwed i chi neu i unigolyn arall – neu i gydymffurfio â gofynion amddiffyn plant. Rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i gael gafael ar y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, er mwyn gofyn i’r wybodaeth honno gael ei chywiro ac, mewn rhai amgylchiadau, i wrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol. Os hoffech arfer unrhyw rai o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y datganiad preifatrwydd hwn, e-bostiwch webmaster@victimsupport.org.uk.
Newidiadau i’r hysbysiad
Ceidw Ffocws Dioddefwyr De Cymru yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i’r hysbysiad cyfreithiolhwn, y datganiad preifatrwydd, ac agweddau eraill i’r safle hon ar unrhyw adeg. Dylech fwrw golwg yn rheolaidd ar y dudalen hon am unrhyw newidiadau.