Gall troseddau gael effaith andwyol ar eich lles meddwl ac emosiynol. Os yw troseddau wedi effeithio arnoch, un ffordd y gallwn eich helpu yw drwy roi’r cymorth sydd ei angen arnoch i ymdopi â straen emosiynol.
Mae’r hyn a wnawn yn debyg i gwnsela, ond nid yw’r un fath. Mae cwnsela yn fath penodol iawn o therapi a gaiff ei arfer gan weithwyr proffesiynol cymwys sy’n dadansoddi holl fywyd a hanes rhywun er mwyn eu helpu i ddeall eu hunain yn well. Nid yw hynny’n rhywbeth sydd ei angen ar y rhan fwyaf o ddioddefwyr troseddau – fel arfer, maent ond am gael help i ymdopi â’r helbul emosiynol y maent yn ei brofi. Fodd bynnag, pan fyddwn o’r farn bod angen cwnsela llawn ar rywun, er enghraifft, gyda phroblemau fel anhwylder straen wedi trawma, gallwn helpu i’w drefnu.
Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i wrando, rhoi gwybodaeth a chynnig adborth. Gallant eich helpu i wneud synnwyr o’r hyn rydych wedi’i brofi, trafod eich opsiynau a’ch helpu i deimlo eich bod yn cael rheolaeth dros eich bywyd eto. Drwy siarad â ni, byddwch yn cael cyfle i fwrw’ch bol a rhyddhau profiadau gofidus.
Er y gall rhai pobl wneud hyn gyda ffrindiau a theulu, nid yw’n gweithio’r un fath i bawb, yn enwedig os bydd y drosedd yn effeithio ar bobl o’ch cwmpas hefyd. Gallwn gynnig lle diogel, niwtral i chi leisio eich ofnau, eich pryderon a’ch emosiynau. Mae hyn yn helpu llawer o bobl i ymdopi a symud ymlaen ar ôl trosedd.