Roeddwn gartref yn fy ngwely, pan glywais sŵn yn dod o lawr y grisiau. Es i lawr i weld beth oedd yn digwydd a dychrynais o weld bod dieithryn yn fy nhŷ. Ymosododd y bwrgler arnaf a chefais fy nharo’n anymwybodol; pan ddeffrais, sylweddolais ei fod wedi dwyn llawer o’m heiddo personol.

Ffoniais yr Heddlu ar unwaith i roi gwybod iddynt am beth oedd wedi digwydd a gwnaethant ddweud y byddent yn fy atgyfeirio at Ffocws Dioddefwyr De Cymru. Daeth Claire, gwirfoddolwr o Ffocws Dioddefwyr De Cymru ataf yn fy nghartref. Roedd Claire yn llawn cydymdeimlad a gwrandawodd pan ddywedais sut roeddwn yn teimlo ers y digwyddiad. Cefais esboniad o’r holl ffyrdd gwahanol y gallent helpu.

Siaradodd Claire â’r heddlu a gweithwyr proffesiynol eraill ar fy rhan gan nad oeddwn yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hyn. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth oedd gweithio gyda’r heddlu i sicrhau bod fy nghartref yn ddiogel. Helpodd hyn i mi ddechrau teimlo’n ddiogel eto. Gweithiodd Claire gyda fy meddyg teulu i sicrhau fy mod yn cael y gofal meddygol cywir i drin fy anafiadau ac y gallwn fynd i apwyntiadau. Daeth yr heddlu o hyd i’r unigolyn a dorrodd i mewn i’m cartref a dwyn achos yn ei erbyn. Nid oeddwn erioed wedi bod i’r llys, ond cefais help gan Ffocws Dioddefwyr De Cymru i ddeall beth fyddai’n digwydd a beth y byddai angen i mi ei wneud. Gwnaethant weithio gyda’r llys a’r heddlu fel y gallwn roi fy natganiad ar sgrin fideo. Roedd hyn yn golygu nad oedd raid i mi eistedd yn ystafell y llys a gwnaeth fy helpu i deimlo’n ddiogel ac yn hyderus i roi fy nhystiolaeth.

Ar ôl yr achos llys, helpodd Claire fi i gwblhau Cais Iawndal am Anafiadau Troseddol na fyddwn wedi gallu gwneud fy hun gan fy mod yn cael trafferth gafael mewn pin ysgrifennu a deall ffurfiau. Mae blwyddyn wedi mynd heibio bellach ac rwyf yn dal i gael help gan Ffocws Dioddefwyr De Cymru i wella ar ôl beth ddigwyddodd. Mae gwybod eu bod yno i wrando wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran delio â’r hyn ddigwyddodd i mi.