Cysylltais â Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar ôl sylwi ar boster yn fy nghanolfan gymuned leol, lle mae meithrinfa fy mab. Roeddwn wedi bod yn cael galwadau ffôn a negeseuon testun digroeso mynych gan aelod o’r teulu. Cysylltais â Ffocws Dioddefwyr De Cymru a siaradais ag aelod o staff i egluro beth oedd wedi bod yn digwydd. Roeddwn yn teimlo’n ofnus iawn ond roedd y cymorth cychwynnol dros y ffôn yn ddefnyddiol iawn. Cefais gyngor diogelwch ar unwaith er mwyn sicrhau fy mod yn gwybod beth i’w wneud os byddai’r aflonyddwch yn parhau. Yna trefnwyd i Swyddog Ffocws Dioddefwyr o’m tîm lleol ddod i ymweld â mi yn fy nghartref.
Roeddwn wedi rhoi gwybod i’r Heddlu am yr aflonyddwch yn y gorffennol, ond ni weithredwyd ar hyn. Siaradodd fy swyddog Ffocws Dioddefwyr â’r Heddlu ar fy rhan a threfnu i mi wneud datganiad. Daeth yr Heddlu i’m gweld i drafod yr aflonyddwch, beth y gallent ei wneud i helpu a gwnaethant hefyd drefnu i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ymweld â mi yn rheolaidd.
Gyda’r sicrwydd hwn, dechreuais adfer fy hyder ond roeddwn yn nerfus iawn ynghylch mynd allan yn gyhoeddus. Bu fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr yn fy ffonio’n rheolaidd gan roi cymorth dros y ffôn. Cefais wybod y gallai fy atgyfeirio at raglen a allai helpu i feithrin fy hyder a lefelau annibyniaeth. Dywedais fy mod hefyd yn poeni am fy mhlant, gan fod yr holl beth wedi effeithio arnyn nhw hefyd. Roedd fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr yn gefnogol iawn a chefais help i siarad â’r ysgol i gael gwybod am y gweithgareddau y gallai fy mhlant gymryd rhan ynddynt hefyd.
Rwy’n hynod ddiolchgar i Ffocws Dioddefwyr De Cymru am gymryd o’u hamser i wrando arnaf ac ymweld â mi. Doeddwn i ddim yn meddwl bod cymorth ar gael i mi ac roeddwn yn teimlo’n fregus iawn. Bellach, gan fy mod yn cwblhau fy nghwrs ac mae fy mhlant y cael cymorth, mae gennym fwy o hyder fel teulu.