Cefais fy atgyfeirio gan yr heddlu at Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar ôl i mi gael fy nhwyllo ar-lein. Collais gannoedd o bunnoedd ar ôl ymateb i e-bost ffug. Nid oeddwn yn teimlo y gallwn ddweud wrth fy nheulu am beth ddigwyddodd ac roeddwn yn teimlo’n unig iawn. Daeth Swyddog Ffocws Dioddefwyr i’m gweld yn fy nghartref. Gwrandawodd arnaf a rhoi sicrwydd i mi nad oedd rhaid i mi ymdopi ar fy mhen fy hun.

Ar ôl colli fy arian, allwn i ddim fforddio’r gofal arbenigol yr oedd ei angen arnaf oherwydd anableddau sy’n effeithio ar fy mywyd bob dydd. Siaradodd fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a threfnu asesiad er mwyn i mi gael cymorth a gofal hirdymor. Ni allwn fforddio fy siopa bwyd nes i’r gwasanaethau cymdeithasol gytuno ar fy nghynllun gofal a chymorth ariannol. Rhoddodd fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr barseli bwyd a thalebau banc bwyd i mi er mwyn sicrhau y gallwn fwyta yn ystod y cyfnod hwn. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i gael y parsel bwyd, ac roedd hyd yn oed yn cynnwys bwyd ar gyfer fy anifeiliaid anwes.

Parhaodd fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr i’m cynorthwyo a bu’n gweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynllun gofal yn cael ei sefydlu. Hefyd, cefais fy atgyfeirio at asiantaeth cyfeillio arbenigol i gael cymorth hirdymor. Drwy gydol y broses, byddai fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr yn cadw mewn cysylltiad er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn iawn a bod yr Heddlu wedi bod mewn cysylltiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y drosedd.

Pan hysbysais yr Heddlu am y twyll i ddechrau, roeddwn yn teimlo cywilydd ac nid oeddwn yn teimlo y gallwn siarad ag unrhyw un am sut roedd y drosedd wedi effeithio ar fy mywyd. Ni wnaeth fy Swyddog Ffocws Dioddefwyr fy marnu erioed, dim ond gwneud i mi deimlo’n gyfforddus gan weithredu yn ôl ei addewid. Rwy’n hynod ddiolchgar i Ffocws Dioddefwyr De Cymru am y cymorth a gefais.